Saturday 19 September 2009

Aliwminiwm Môn – Cenedlaetholi er mwyn achub Swyddi

MAE CAU lawr yr hwylusudd mwyndoddwr yn Aliwminiwm Môn yn ergyd ddinistriol i economi Caergybi a gweddill Ynys Môn, Gogledd Cymru. Mae’r cwmni (oedd ar ddechrau’r flwyddyn yn cyflogi dros 500 o weithwyr, ac oedd yn amcangyfri am dros drydedd o economi Ynys Môn), nawr ond yn cadw oddeutu 80 o weithwyr.

Dylan Roberts ag Iain Dalton

Y rheswm dros gau’r safle yw diwedd cynhyrchu egni oddi ar gorsaf bwêr niwclear Wylfa. Mae diwedd y dosraniad yma wedi bod ar y cardiau am beth amser bellach – mae cau Wylfa, a gafodd ei gyhoeddi nôl yn 2006, i fod mewn grym erbyn 2010. Ond mae’r cwmni yn y gorffennol wedi dweud ni fuasai cau Wylfa yn fygythiad. Felly beth sydd wedi newid nawr?
Mae’r argyfwng cyfalafiaeth presennol a chynydd yn nghostau cynhyrchu yn cael eu defnyddio fel bwch diahangol, fel ymysodiad a’r dâl a amodau a’r newid o gynhyrchu i weithfeydd nad oes ganddynt undebm, mewn economi tâl isel, er mwyn cynyddu elw.
Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, nid oes yna angen mawr i newid cynhyrchiad, mae hyn yn achos arall lle mae elw yn dod cyn y bobl.Mor ddrwg yw’r sefyllfa a wneir y colledion yma i economi’r ynys, bod llywodraethau y Cynulliad a San Steffan wedi eu gorfodi i ymyrryd, gan gynnig £59 miliwn mewn cymhorthdal gwladol dros gyfnod o 4 mlynedd, sy’n gyfanswm enfawr o £1 miliwn y mis.
Beth bynnag, mae rheolwr Aliwminiwm Môn, Rio Tinto (sydd dal yn berchen a 51% o AM) a Aliwminiwm Kaiser (berchen ar 49%) wedi gwrthod y ddêl, yn datgan y byddent angen o leiaf dwbl y ffigwr mewn cymhorthdal gwladol er mwyn cadw cynhyrchu yn Ynys Môn.
Ond mae Aliwminiwm Môn wedi bod yn hynod o broffidol yn y 36 mlynedd y mae wedi bod ar yr ynys. Ymhellach i hyn, mae Rio Tinto a Aliwminiwm Kaiser yn gwmniau ryngwladol ac yn creu elw anfferth.
Mae Rio Tinto wedi cofnodi elw yn 2008, yn dychwelyd elw yn y chwarter cyntaf o 2008 y swm anferthol $2.94 biliwn (UDA). Nid ydynt wedi gwneud mor dda yn chwarter cyntaf o 2009 ond wedi parhau i wneud $1.6 biliwn o dychwelyd elw yn y cyfnod hwnw, neu $177 miliwn y diwrnod!
Yn union fel y banciau, rydym yn gweld mentrau preifat yn gofyn i eu colled gael ei genedlaetholi ond bod yr elw yn aros yn breifat. Er gwaethaf y nodiadau diswyddi yn cael eu rhannu allan, nid yw’r sefyllfa yn un hollol ddiobaith fel a welwyd gan weithredoedd yn safle Vestas Blades yn Ynys Wyth. Yno, mae’r gweithwyr a’u cefnogwyr wedi rhoi pwysau enfawr ar y cwmni a’r llywodraeth i rhwystro’r safle cael ei gau. Maent ar y funud yn cymryd gweithred i atal y twrbinau gwynt sydd ar ol a’r offer gael ei symud oddi ar y safle fel rhan o’u hymgyrch i orfodi’r llywodraeth i genedlaetholi’r safle.
Yn y ddau sefyllfa, mae lefelau elw o’r cwmniau rhyngwladaol, a’r parhad o elw o’r gweithfeydd, yn dangos eu hyfywedd. Dylai’r ddau gwmni cael eu gorfodi i agor eu llyfrau a gweld lle mae’r elw yma wedi mynd, ac os yn berthnasol dylai’r safleoedd eu cenedlaetholi, o dan reolaeth y gweithwyr democrataidd er mwyn sicrhau gwaith ar gyfer y dyfodol a cyfleon ar gyfer gweithwyr a sgiliau.

No comments:

Post a Comment